Rhan o gyfraith Rhufain a ddefnyddiwyd gan yr Ymerodraeth Rufeinig wrth gynnal cysylltiadau â thramorwyr, yn enwedig deiliaid taleithiol, oedd ius gentium (Lladin am "gyfraith cenhedloedd").[1] Bellach mae'n cyfeirio at y gyfraith naturiol neu gyffredin ymhlith gwladwriaethau o fewn y gymdeithas fyd-eang, yn enwedig rheolau heddwch a rhyfel, ffiniau cenedlaethol, diplomyddiaeth, ac estraddodiad. Yn yr ystyr hon ius gentium, ynghyd ag ius inter gentes, yw cyfraith ryngwladol gyhoeddus.